Profiad cyffrous tu hwnt, er gwaetha'r bali nerfau 'ma, ydi gweld y gyfrol yma wedi'I chyhoeddi!
Diolch o galon,
@GwasgPrifCymru
, am fod mor barod i gyhoeddi'r gwaith, i
@Gwybedyn
am olygu mor wych, ac i Jerry Hunter a
@Davieseryl
am bob dim!
Diolch o waelod calon i'r
@eisteddfod
am seremoni gartrefol neithiwr ac i bawb am y llongyfarchion arbennig. 'Dach chi'n ffeind eithriadol. Dwi wir yn gwerthfawrogi! 😊
Wir yn methu coelio bod Cylchu Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 'leni!!
Diolch o galon i’r beirniaid am fod mor ffeind, a diolch unwaith eto i
@meinir_edwards
am fod yn olygydd arbennig ac i’r
@YLolfa
am fod mor barod i gyhoeddi’r gwaith
#LLYF23
It's a Good Day for these 78 writers who've been awarded almost £185,000 in grants for their works in progress, buying them time to write and help with research costs 🎉:
#SoAGrants
 finna'n llawn cyffro a nerfau'n gymysg, dyma rannu clawr nofel newydd a gyhoeddir gan
@Gwasgybwthyn1
ym mis Mai.
Nofel am gylch o wrachod modern ym Mangor a'r bygythiad annisgwyl sy'n codi'i ben ydi hi.
Diolch o galon i Marred a
@meinirpjones
am ddod â'r gwrachod i'r byd!
Gylp! Mae hi *yn* digwydd rŵan ... mae Y Cylch ar fin cael ei hargraffu ac mi fydd yn y siopau fis nesa!
Diolch o galon i
@Gwasgybwthyn1
am gael ei chyhoeddi, i Marred Glynn Jones am olygu gofalus, ac i
@ManonSteffanRos
a Ioan Kidd am y geiriau ofnadwy o ffeind ar y cefn!
 llond berfa o gyffro a nerfau, dyma rannu'r newydd y bydd gen i gyfrol yn ymateb i lefydd ar hyd arfordir Cymru a Chlawdd Offa yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Diolch yn fawr i
@garddwraig
am y dyluniad gwych, i
@meinir_wyn
am olygu'n arbennig, a'r
@YLolfa
am gyhoeddi!
Dyma neges gyffrous - ac eto nerfus dros ben! - am gyfrol a gyhoeddir gan
@GwasgPrifCymru
yr haf yma.
Diolch yn fawr iawn i'r Wasg am fod yn barod i'w chyhoeddi a diolch o galon i
@Gwybedyn
am fod yn olygydd mor arbennig!
Diolch o galon i bawb am y negeseuon ffeind dros ben! Tydi sioc ddim yn cyfleu'r hyn dwi'n ei deimlo bod Cylchu Cymru wedi'i enwi'n llyfr ffeithiol greadigol y flwyddyn!
Diolch enfawr i
@LlenCymru
a'r beirniaid, a llongyfarchiadau lu i
@LlyrTitus
am ennill y Llyfr y Flwyddyn!!
Boed yn perthyn i’r gymuned
#LHDTC
+ neu beidio, mae
#ItsaSin
yn wylio hanfodol i gofio am adeg arwyddocaol yn ein hanes cymdeithasol diweddar
Whether a member of the
#LGBTQ
+ society or not
#ItsaSin
is essential viewing to remember a significant time in our recent social histrory
Mor falch fod
#Curiadau
@trydarbarddas
bellach ar gael i'w phrynu. Mae hon yn gyfrol lawn profiadau croyw wedi eu sgwennu'n dyner ac yn drawiadol, ac yn eithriadol onest. Cyfrol i bawb ydi hi'n bendant!
Diolch o galon i
@gruffydd_sion
am ddylunio mor wych a
@BethCelyn
am gydlynu
Diolch o waelod calon,
@nathanmunday2
, am adolygiad ffeind iawn o ‘Mae'r Beibl o'n Tu’ (
@GwasgPrifCymru
) ar
@NationCymru
!
Bydd digwyddiad i nodi cyhoeddi'r gyfrol ym Mangor ddechrau mis nesaf, a chroeso cynnes i bawb ddod draw!
Dymuniadau cynhesaf ichi gyd yn ystod yr wyl.
Dyma gerdd hynod gan
@tudurdylanjones
, 'Seren', sy'n cyfleu neges yr wyl: gobaith, a thosturi. Mae gobaith yn ein byd, hyd yn oed yng nghanol drysni a thrybini uffernol. Mae gobaith. Wastad. Gofalwn ninnau am dosturi hefyd.
Profiad bythgofiadwy oedd cael ymuno efo'r Orsedd ddoe a gwych oedd cael selfie efo ffeind annwyl ac ysbrydoledig!
Diolch o waelod calon i bawb sydd 'di bod mor, mor ffeind yn anfon negeseuon draw. Dwi wir yn ddiolchgar ichi gyd 🤗
#AtgofionTregaron
Mae Llanddafad wedi glanio a dwi'n lobsgows o lawenydd, o fod dan deimlad, ac o 'iesgob annwl!'
Diolch o galon,
@meinir_edwards
, Teleri,
@SianEsmor
ac
@YLolfa
am y cyfle i gyhoeddi llyfr i blant; Lleucu Gwenllian am y dylunio anhygoel; a Catrin Fflur am ddyfyniad arbennig!
Ar ei hôl hi braidd, ond dyma, o’r diwedd, fachu ar y cylfe i longyfarch dau ffrind annwyl iawn ar eu llwyddiant yn Nhregaron wythnos ddiwethaf!
Darllenwch ‘Rhyngom’ (
@YLolfa
) ac ewch i weld ‘Nyth’ yn syth pan fydd hi ar lwyfan, da chi! ✍️🎭
Os ydych chi'n digwydd bod yn Nhregaron wythnos i ddydd Iau yma, mi fuasai'n wych iawn eich gweld yn y sesiwn isod, lle byddaf yn cael y cyfle arbennig i drafod fy nghyfrol academaidd gyntaf efo'r Athro Jerry Hunter (
@CymraegBangor
)!
Diolch o galon i bawb ddaeth draw i Pontio neithiwr a gyfer lansiad 'Cylchu Cymru' (
@YLolfa
).
Diolch enfawr i Sioned Erin Hughes am fy holi'n glên ac i
@casi
a
@grifflynch
am berfformio mor hyfryd!
Diolch, diolch, diolch i bawb am fod mor ffeind!
Diolch o galon i bawb ddaeth draw i
@PalasPrint
ar gyfer sesiwn
#CylchuCymru
(
@YLolfa
) a diolch o galon i Angharad Price am arwain y sesiwn mor wych.
Bydd
#CylchuCymru
yn y siopau cyn diwedd y mis - sy'n gyffrous ac eto'n frawychus!!!
Newyddion cyffrous – cyhoeddir cyfrol o straeon bychain bach am fywyd ... a chariad fis nesaf!
Gwaith arbennig 20 awdur, yn cynnwys Sonia Edwards, Aled Jones Williams, Mari Gwilym, Marred Glynn Jones,
@iestyn_tyne
,
@miriamelin23
,
@megsgwennu
a
@llyrgwyn
, i enwi ond rhai!
Wrthi'n paratoi at gwrs dwi'n edrych mlaen gymaint i'w gynnal yn
@Ty_Newydd
ddydd Sadwrn yma - 8 Mehefin.
Mae dal ambell le ar ôl ac mae croeso i bawb - 'sdim rhaid ichi fod yn ffotograffydd profiadol o gwbl - dim ond â ffôn sydd gan gamera. A beiro!
Braidd yn hwyr i'r parti, ond dyma ddymuno
#DiwrnodBarddoniaeth
hapus iawn ichi gyd!
Dyma un o'r cerddi sydd wastad yn cael effaith arna i - canu mor dwyllodrus o syml gan fardd diddorol iawn.
Diolch o galon i bawb fynychodd y sgwrs heno, y gyntaf yng nghyfres
#CoelGwrach
Siân Melangell Dafydd. Roedd hi'n arbennig medru trafod gwrachod "da" a "drwg" efo Siân. A chofiwch am y sgwrs nesa fydd yn un eithriadol wych gyda
@delythbadder
a
@sara_huws
ar 13 Mai!
Diolch o waelod calon i'r Theatr Gen a'r
@eisteddfod
Gen am wireddu breuddwyd. Diolch o galon hefyd I
@BransDavies
am ei holl help gwerthfawr ac i'r actorion am wneud gwyrthiau efo'r sgript -
@sion_eifion
,
@mirain_fflur
a Judith Humphreys. 🎭🎭🎭
Edrych ymlaen yn arw at lansiad
#Pridd
, nofel newydd eithriadol gan
@LlyrTitus
(
@Gwasgybwthyn1
), ar 22/04/22 am 7.30yh yn Neuadd Sarn.
Mi fydd yn noson arbennig iawn yng nghwmni Llŷr, Gwasg y Bwthyn, a llenorion ifanc, dawnus.
Croeso cynnes i bawb!
🏳️🌈Mis PRIDE 🏳️🌈
Sgwrs Banel: Cranogwen + Prosser Rhys
gyda:
@GEvansJones
@iestyn_tyne
@ArwelGruffydd
, Jane Aaron a Grug Muse
📆HENO
⏰7.30pm
Am ddim / Free
📍Zoom
🎟
Ymunwch â ni i ddathlu mis Pride gan edrych ar ddau o gewri’n hanes!
Os 'dach chi'n digwydd bod yn y Steddfod ar y Sadwrn olaf, 6 Awst, am 1yp, mi fasa'n wirioneddol wych eich gweld yn y Babell Lên ar gyfer y sesiwn yma – ac mi dria i 'ngora i beidio â phaldaruo gormod!
#CylchuCymru
(Gorffennaf 2022,
@YLolfa
)
Llongyfarchiadau enfawr iti,
@LlyrTitus
, ar lansiad cynnes a difyr heno yn Sarn! Cafwyd geiriau hyfryd gan
@MargedTudur
a holi arbennig gan Grug Muse.
Mae Anfadwaith
@YLolfa
ar gael i'w phrynu rŵan! Bachwch gopi - neu dri! Chewch chi mo'ch siomi!
Mae
#Llanddafad
@YLolfa
ar y ffordd - y proflenni terfynol newydd eu cywiro! Dwi wedi cael modd i fyw yn sgwennu fy llyfr cyntaf i blant a gweithio efo Teleri Haf,
@meinir_edwards
, a gweld y cyfan yn dod yn fyw gyda darluniau arbennig iawn, iawn Lleucu Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn,
@Golwg360
, am gael trafod 'Cylchu Cymru' (
@YLolfa
) fel rhan o'r gyfres o sgyrsiau ag awduron rhestr fer Gymraeg Llyfr y Flwyddyn
@LlenCymru
2023!
Wir yn gyffrous at y gyfres arbennig yma gan Siân Melangell Dafydd a'r
@colegcymraeg
am wrachod hanesyddol a chyfredol Cymru, ac at sgwrsio efo Siân bythefnos i heno (24 Ebrill) am 7:30yh, am wrachyddiaeth a chymdeithas!
Cofrestrwch am ddim:
Os ydach chi'n digwydd bod yn ochrau Bangor wsos i heno, mi fasa'n wych eich gweld yn lansiad rhyw gyfrol gen i.
Mi fydd yr amryddawn Sioned Erin Hughes yn arwain a'r anhygoel
@casi
yn perfformio!
Croeso cynnes i bawb! 📗✍️
Llongyfarchiadau enfawr,
@Gwenddolen
ac
@ArchPBU
, am ddarlith wych neithiwr yn trafod bywyd Syr Ifor Williams. Gwych clywed am y fath gyfoeth o adnoddau sydd yn yr archifau a dwi'n edrych mlaen yn arw at weld y gyfrol a gyhoeddir gan
@GwasgPrifCymru
yn fuan!
Edrych mlaen yn arw at sgwrsio efo Siân Melangell Dafydd am wrachod, cymdeithas a llenyddiaeth! Ac ella fydd 'na sôn am nofel am wrachod fydd yn cael ei chyhoeddi gan
@Gwasgybwthyn1
yn yr hydref eleni hefyd!
Dewch yn llu i stondin
@prifysgolbangor
ar ddydd Llun yr
@eisteddfod
!
#NadoligLlawen
iawn ichi gyd. Diolch o galon am bob cefnogaeth eleni.
A very
#MerryChristmas
to you all. Thank you so much for all of the support this year.
Mae heddiw'n Ddiwrnod Rhyngwladol Cofio'r Gaethfasnach a'i Diddymiaeth.
Dyma gyfle inni gyd gofio am y fasnach drawsatlantig ofnadwy sy'n dal i effeithio ar ein cymdeithas heddiw, a chofio nad ydi caethwasiaeth yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol pell.
Ewch amdani!
Stori fer 3,000 o eiriau erbyn 1 Mawrth.
Gwobr: £200 a chyhoeddi mewn cyfrol (3 enillydd).
Awduron newydd: pawb sydd heb gyhoeddi cyfrol eu hunain.
Diolch o waelod calon
@walesliterature
am ddewis
#Curiadau
(
@trydarbarddas
) fel un o lyfrau Silff Lyfrau 2023! Mae Curiadau yn gyfrol sy'n llawn gweithiau arbennig gan lenorion gonest a chrefftus, ac mae'r diwyg yn wirioneddol gampus diolch i
@gruffydd_sion
!
📣📣 Cyhoeddiad 📣📣
Mae Silff Lyfrau 2023 yma! Dilynwch y ddolen 👇 i weld ein detholiad. Bydd ein tîm yn argymell y llyfrau gwych yma i gyhoeddwyr tramor eu cyhoeddi mewn cyfieithiad – gan ddechrau heddiw yn
#FfairLyfrauFrankfurt
📚🌎🏴🎉
Neithiwr, ges i'r cyfle amhrisiadwy o gynnal gweithdy sgwennu efo criw hwyliog, cynnes a chreadigol
@Gisdacyf
yng Nghaernarfon. Diolch o galon am y croeso a diolch o galon i
@Gisdacyf
am fod yn elusen mor bwysig i helpu pobl ifanc sy'n wynebu heriau amrywiol.
Edrych ymlaen yn arw at gael darllen cerdd yn ymateb i Eglwys Llangybi yn
#FfynnonCybi
ddiwedd y mis fel rhan o brosiect
#LlwybrCadfan
@Cadeirlan
.
Diolch o waelod calon i
@siannorthey
a
@Sion_Aled
am y cyfle.
Dewch draw am dro os medrwch chi - mi fasa'n wych eich gweld!
Diolch o waelod calon i
@maredllywelyn
ac
@Ant1988
am adolygiadau mor garedig am
#CylchuCymru
- yn enwedig â'r gyfrol yn dod i'r fei 'leni a hithau'n ddeng mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru.
Diolch enfawr!
Diolch yn fawr i Gyngor
@LlyfrauCymru
am y cyfle i drafod 'Adfeddiant Diwylliannol a Llenyddiaeth' bore 'ma, ac i bawb a fynychodd y sesiwn hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach yn sgil y cyflwyniad, mae croeso mawr ichi gysylltu â mi ar bob cyfri.
Prosiect rhwng India a Chymru / An Indian-Welsh project
Mi fuasai'n wirioneddol wych eich gweld os ydach chi'n medru mynychu!
It would truly be excellent to see you if you can attend!
Artistiaid / Artists: Jigmet Angmo,
@kavyas_09
, Karshni Nair,
@108Lewis
&
@davidjohnroche
.
Llongyfarchiadau enfawr, Grug (
@ystampus
) a
@gwalltog
!
Mae'r ddwy'n gyfrolau eithriadol yng ngwir ystyr y gair; dwy gywrain o ysgytwol; dwy a'u crefft yn llamu o bob tudalen; a dwy sy'n darlunio profiadau cyfoes mewn ffordd hynod iawn.
Arbennig!
#LLYF22
Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi enillwyr Gwobr Ffuglen Cymraeg
@PrifysgolBangor
a Gwobr Farddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.
Llongyfarchiadau mawr i’r awduron a’u gweisg 🌟
Diolch yn fawr
@BBCRadioCymru
am gael siarad efo
@CHafJones
ar
#DrosGinio
heddiw am fywyd a phwysigrwydd Ieuan Gwynedd (1820-1852), y gweinidog a ymgyrchodd dros hawliau merched, rhyddid crefyddol, a gwrthwynebydd caethwasiaeth (sy'n cael ei grybwyll yn 'Mae'r Beibl o'n tu').
Golygfa drawidol yng Nghricieth - ymchwil greadigol ar gyfer gwaith newydd.
Creative research at
#Cricieth
- thank you very much,
@Soc_of_Authors
, for the bursary!
Wedi mwynhau mynychu cynhadledd Astudiaethau Du Prydain a chael y cyfle i gyflwyno papur.
Thoroughly enjoyed attending
#WHBBHXIV
and for having the opportunity to present a paper.
Diolch yn fawr / Thank you very much
@ICwS_SAS
,
@ihr_history
,
@Llafur
,
@BlackBritHist
!
Tro arbennig ym
#Mhorthdinllaen
heddiw - ymchwil creadigol ar gyfer cyfrol newydd!
A special visit to
#Porthdinllaen
today - creative research for a new volume of prose!
Diolch i Gymdeithas Awduron Prydain am y nawdd.
Thanks,
@Soc_of_Authors
, for the bursary.
Mae dal amser i gofrestru i wrando ar Sudha Bhatt,
@Laurabakes
,
@ndabrams
a Kristoffer Hughes yn trafod crefydd yng Nghymru heddiw.
A discussion on Religion and Welshness will take place tonight and there will be simultaneous translation! All welcome!
Diolch yn fawr iawn i'r
@OlraddCCC
@colegcymraeg
am y cyfle i gyflwyno papur fel rhan o'r Gynhadledd Rithiol heddiw. A diolch am y cwestiynau difyr a buddiol eithriadol!
Gwych iawn ydi cael cyhoeddi y bydd ‘Can Curiad’, cyfrol o straeon bychain bach, yn cyrraedd y siopau wythnos nesa!
Llyfr yn llawn gwaith 20 awdur arbennig, gan gynnwys Sonia Edwards, Aled Jones Williams,
@siannorthey
,
@iestyn_tyne
,
@miriamelin23
, a
@llyrgwyn
, i enwi ond rhai!
#DiwrnodyLlyfr
Hapus bawb!
Diolch o galon i Flwyddyn 2 Ysgol Gymraeg Lôn Las, Abertawe, am y croeso heddiw wrth imi gynnal gweithdy sgwennu a mwydro am
#Llanddafad
@YLolfa
! Mae 'na sgwenwyr gwych yn Abertawe!
Diolch yn fawr,
@hanan_issa_
, for your discussion this evening as part of the National Centre of Religious Education
@BangorUni
@prifysgolbangor
's celebrations of
#WomensHistoryMonth
!
Diolch yn fawr hefyd i bawb a fynychodd / thanks also to everyone who attended!
Diolch o waelod calon i adolygydd
@ystampus
am sylwadau mor ffeind am
#AdarPapur
. Dyma rywbeth mor braf ar ddiwrnod glawog! Diolch yn fawr iawn, iawn 😊
Llongyfarchiadau enfawr, Francesca,
@golauannwyl
a
@Lois_serengoch
! Edrych mlaen yn arw at weld eich gwaith mewn print gan
@SebraCymru
!
A diolch o galon i bawb am gystadlu! Roedd 'na gymaint o straeon gwych a dwi'n mawr obeithio y bydd sawl un arall yn gweld golau dydd yn fuan!
Llongyfarchiadau enfawr,
@ElganRhys
, a holl awduron gwych
#YPump
(
@YLolfa
)!
Mae’r gyfres mor bwysig o ran ei chynrychiolaeth o’r Gymru gyfoes, ei mentergarwch wrth gael deg awdur i gydweithio ar bum nofel, a'i hymdriniaeth ag amryw themâu pwysig.
Arbennig iawn!
#LLYF22
Pum nofel onest, pwerus a diflewyn-ar-dafod gan rai o’n hawduron ifanc mwyaf blaengar. Llongyfarchiadau mawr i bawb fu ynghlwm â’r Pump!
@YLolfa
.
#LLYF22
Llongyfarchiada enfawr,
@Rwdlian
, ar gyhoeddi
#Woven
, cyfieithiad o
#YCastellSiwgr
! Gwych gweld un o nofelau cyfoes pwysicaf y Gymraeg yn cyrraedd cynulleidfa ehangach!
An important and powerful novel depicting slavery and servitude in relation to the Pennant Estate.