Tristwch mawr heno o glywed am farwolaeth Maureen Hughes, ar drothwy
@eisteddfod
@sirconwy2019
Un o Lywyddion Anrhydeddus yr ŵyl, ac un a wnaeth gyfraniad enfawr i gerddoriaeth yn Nyffryn Conwy. Cofion at Gareth a Bleddyn, a’r teulu cyfan. ❤️ mor falch o helpu bob amser x
Heddiw, o bob diwrnod, cofiwch bod gan pawb ei broblem, os ydi hynny yn amlwg â’i peidio. Gall y petha lleia fel cael eich anwybyddu neu ddiffyg parch gael effaith pellgyrhaeddol. Gwnewch y petha bychan. Byddwch gwrtais a dewr. Siaradwch
#suicidePreventionDay
❤️
Ma angan urddo’r pencampwr a fathodd yr enw ‘Maes P’ ar doilets Llansannan ar gyfer
@sirconwy2019
!!! 😂😂😂 plîs neith
@eisteddfod
fabwysiadu’r term ar y maes?!! 😂😂😂👌🏻🤪
#HenBlantBach
@s4c
heno yn anrheg Nadolig perffaith. Llawn hiwmor cynnes, gan bob cenhedlaeth, a
#KenHughes
yn seren gloyw gomic ar ben y goeden. Syniad syml, ond cwbl bwerus. Pobol a phlant
#DyffrynNantlle
yn gymeriadau gwerthfawr. Da iawn
@DarlunTv
Mwy plîs. (A cyfres i Ken!)
...Mae bywyd mor fregus. Wrth hwylio’r hen flwyddyn greulon ma allan i’n hatgofion, nos yfory, cydiwch yn dynnach yn eich cyfeillion a’ch teuluoedd; rhannwch eich diolchgarwch a’ch gwerthfawrogiad ohonynt. ❤️❤️❤️
Sioc enfawr am golli Leah Owen. 💔 Cerddorfa o dalent cerddorol a lleisiol. Annwyl bob amser. Cefais y fraint o gael fy hyfforddi i ganu cerdd dant ganddi!! 🫣. Yn arweinydd a chyfansoddwr heb ei hail. Barn bendant, yn enwedig am Gymry oedd yn nelu am West End!! Wrth fy modd 1/2
Sioc mawr (eto fyth) o glywed am golled Christine. Actores gadarn a solet bob amser, cymeriadu cryf, llais unigryw. Anghofiai fyth emosiwn amrwd Fel Anifail, a soffistigeidrwydd Dinas. Gwrando ar ei chyfraniad cynnar o waith Saunders yn ddiweddar iawn
Am ddiwedd trasig i 2019. Meddwl am deuluoedd Ioan Roberts a Margaret Edwards, yn eu colledion enbyd. Nabod y ddau dros y blynyddoedd. Mor weithgar yn eu maesydd gwahanol. Y dychryn imi, ydi mod inna ar yr union ddarn o’r A5, gwta 24awr union, cyn damwain Margaret. 💔💔💔
Llongyfarchiadau
#HywelGwynfryn
a Slam Media /
@S4C
am raglen deilwng a diddorol am hanes darlledu Mr Gwynfryn, a’i benblwydd yn 80. Am gyfraniad; talp o hanes darlledu, a hyfryd gweld yr hen archif hefyd. Mwy plis!
Trist iawn o glywed am farw
#ArianwenParri
Atgofion braf am gael ymgolli ymysg y llyfrau yn Llanrwst pan yn blentyn, a’r Bys a Bawd bychan yn llawn i’w ymylon o ogla llyfrau’r Llewod, Sbondonics a dramâu Cyfres y Llwyfan. Cydymdeimlad cywiraf â
@CarregGwalch
Deiniol, Iolo a Gwawr
Wedi wir fwynhau
#MaggiNoggi
o’r
@eisteddfod
@S4C
; ffraeth, ffyni ac elfen ffrinji iddi! Mae ganddi one-liners fel bwledi o gomedi, sy’n brifo chwerthin, ac yn gymêr mwy na’i hanner! Mwy plîs, a chyfrif trydar hefyd! Dyma be ydi brenhines drag go iawn! 👏🏻👏🏻👏🏻❤️🏳️🌈🏴
Mae bron wythnos wedi pasio ers y 'steddfod, ond mae un peth yn siŵr o aros yn y cof! 🤣🤣
Pa un yw eich hoff foment chi? 🤔
What's your favourite Maggi moment? 🤔🤣
💅 Maggi Noggi yn yr Eisteddfod
📆 Dydd Sadwrn | Saturday
🕘 9.00
#magginoggi
#steddfod2019
Diolch
@eisteddfod
Llanrwst am ddiweddglo byth-fwd-iadwy heno! Coron ar yr wythnos oedd fy llusgo gan y tractor o’r maes parcio! 🙈😂😂😂
#Eisteddfod2019
#BilL
ôndriYnYPost 😂
Trist iawn iawn o glywed y newyddion trasig am
#MairPenri
. Roedd gen i barch a dyled aruthrol iddi fel beirniad drama, ac roedd hi’n gymeriad a hanner. Atgofion hapus. Colled fawr. Cofion at Sion Pennant a’r teulu. Diolch Mair am bob arweiniad. X
I
@Monsieur_Potter
- caru dy ddewrder a’th ddyfalbarhâd i gael y GWIR i glustiau’r Cymry. Gobeithio bydd dy onestrwydd Di-ffuant yn fodd i eraill fagu hyder neu i’r euog erfyn maddeuant. Gobeithio gei di gyfle nawr i symud mlaen yr un mor hyderus. ❤️
#Arwr
#CadwCyfrinach
@s4c
Gymry annwyl, anrhydeddwch eich ‘arwyr’ ar lawr gwlad, sy’n gweithio’n brysur AM DDIM, flynyddoedd cyn iddyn nhw farw, nid wythnosau. Nhw sy’n GWIR haeddu yr anrhydedd nid celebs rhad a cyfoethogion sy’n mynnu täl am wneud hynny. Clywch golegau a sefydliadau eraill!!!! 🤨😔
Llongyfarchiadau calonog i Gymdeithas y Llawrdyrnu, Sarnau am ennill y gystadleuaeth perfformio drama fer, yn
@eisteddfod
eleni. Dyma’r cwmni a gipiodd y 3 gwobr, am gyfarwyddo a phrif actor hefyd. Camp enfawr.
#Eisteddfod2019
@sirconwy2019
@TheatrGenCymru
Llŷr Bryn. Sioc fawr eto bora ma. Ma na flynyddoedd ers imi dy weld, a mwy ers inni fod ar goll yn ganol Dulyn! Y ddau ola o griw coleg i ddal y gwch adra! Pnawn braf oedd y bennod honno, efo’r Guinness. Cysga’n dawel rhen ffrind. Allan o’th boen. Cadwa le a pheint imi tro nesa x
Dwi’n gobeithio bod
@KeithMorrisAber
wedi teimlo’r cariad â’r parch sy’n cael ei fynegi‘r penwsos anodd hwn, tra bod o’n fyw. Hawdd di cynnig geiriau pan mai’n rhy hwyr. Rhaid parchu pobol tra ma nhw’n dal efo ni. Biti na fasa fo di cael gweld cyfrol o’i waith cyn mynd 😢
Graen greadigol a gweledol, a gwreiddiau chwip o gyfres dda
#HeloSyrjeri
@S4C
Nabod y nyrsus yn dda, ac MA nhw’n gesus â hanar! Prin bod angan meddyginiaeth wedi bod yn Blaena, gan fod cael chwerthin mor llesol. Da iawn eto
@DarlunTv
am ddal naturioldeb lliwgar y Cymry!
Dyna orffen cyfrol cofiadwy arall gan yr unigryw annwyl “fatty-poof”
@Stifyn1
! Gwledd, o’r digri hyd ddagrau. Cofnod hollbwysig o’i gyfraniad enfawr, talentog a chreadigol, a’i waith caled di-ddiwedd (a di-ddiolch yn aml!) Braint cyd-weithio a nabod mam a David.
@GwasgGomerPress
#NosonLawen
gofiadwy heno
@eisteddfod
@S4C
Dathliad o waith enwogion y Fro, yn gyfansoddwyr a beirdd a Phrifeirdd / Archdderwydd (“boss bard!”) da iawn pawb fu’n rhan o’r arlwy! 👏🏻👏🏻👏🏻❤️🏴
Er mor dywyll ydi’r daith i bawb, weithia, y wers ydi gofyn am help ddigon cynnar. Peidiwch â’i ddal i mewn. Rhaid cyfathrebu a rhannu. Dyna fel ma petha yn cael eu trafod a’u lleddfu. Amser, amynedd, dealltwriaeth, rheoli - I gyd yn gamau gwerthfawr i ddelio efo’r boen 👍🏻❤️
Nôl yn y ddinas. Wythnos hon di profi’n deg, bod rhen ‘Parry Williams yn agos iawn i’r gwir! Dwi’n credu imi glywed yr hen grafangau, drwy’r llaid yn Llanrwst!
#adre
Diolch
@eisteddfod
Dyna pam bod RHAID iddi barhau i deithio! 👍🏻🏴🏴🏴❤️
#Eisteddfod2019
#Diolch
Dwi’n chwilio am gyfansoddwr / cyfarwyddwr cerdd sydd â diddordeb cyd-weithio yma’n Llundain, ar gynhyrchiad theatr. Drama, nid drama gerdd. Cerddoriaeth cefndir ac ambell emyn Gymraeg o bosib, efo’r cwmni. Tâl am y gwaith. Cysylltwch a rhannwch plis.
#yawrgym
#yagym
diolch
@MedeniSam
Ddrwg iawn iawn gen i glywed am y newyddion trasig. Y fath golled nid yn unig i chi fel teulu, ond i Gymru gyfan. Fydd machlud Bae Ceredigion fyth run fath eto. Hiraeth amdano, ond cysur yn ei heddwch. Xx
Cychwyn da i
@eisteddfod
#SirConwy2019
@sirconwy2019
neithiwr yng Ngŵyl Ddrama’r
#Odyn
Betws y Coed. Gweld 2 ddarpar gwmni yng nghystadleuaeth perfformio’r adran ddrama, a’r safon cychwynol yn addawol iawn. 5 cwmni yn unig fydd yn dod i’r Ŵyl ym mis Awst. Da di
#DyffrynConwy
👍🏻
A dyna ni. Wedi gorffan y fordaith efo’r
#Capten
@meinirpjones
ac wedi wir fwynhau. Teimlo’n arw drosto. Y llun yn annisgwyl hefyd. Yr ymchwil a manylder y deud yn taro deuddeg. Am fodfeddu i smera llai rwan a ffwtwocio mwy! Swlffa am sbrencs a brisyn bob diwetydd! 👏🏻👏🏻👏🏻
#gwych
2/2 yn gwrando ar ei CD. Llais fel cloch o Ganwyd Iesu i Yr eira ar y coed. Codi hiraeth bob tro. Falch mod i wedi cael deud hynny wrthi hefyd. Cysga’n dawel Leah, a diolch am bob dim. ❤️ “Cofiwch chi ddeud mod i’n hogan o Fôn!”. Cofion at Mr Lloyd Jones a’r teulu x
Trist iawn o glywed y newyddion am
@KeithMorrisAber
Cymeriad hoffus bob amser, yn brysur a byrlymus, â barn gadarn onest. Fe erys ei weledigaeth unigryw o Geredigion a Chymru trwy ei luniau godidog.
#RIPKeithMorris
Cym orffwys nawr a chwsg mewn hedd x
Diolch
@GlynWise
am anrheg bendigedig, ac waw, am stori sy’n llifo’n rhwydd gan wirioneddol ddal y darllenydd yn gaeth, tan y diwedd un. Ôl ymchwil manwl, cymeriadau cry’, plot gwbl Gymreig a nofel penigamp! Diolch
@BethanGwanas
Edrych mlaen am y dilyniant rwan!
@GwasgGomerPress
Blwyddyn Newydd Dda, pan y daw, er dwi’n ama bod y Cymry wedi dianc rhag
@twitter
misoedd cyn i Mr Musk deyrnasu! I’r rhai sy’n weddill, blwyddyn newydd well.
Wedi misoedd o deithio o Gorwen i Gaerffili, o Bantglas i Betws-y-coed ac o Lanafan i ‘Lanaethwy, mae’r 5 cwmni terfynnol ar eu ffordd i Fro Conwy! Edrych ymlaen
@eisteddfod
@sirconwy2019
#pentredrama
Fel dwedodd Ap Dafydd yn ‘89, “...Costa Brava’r Brifwyl!” 🏴👌🏻❤️
A rediscovered masterpiece by Emlyn Williams: one of Wales’ most celebrated playwrights, whose work has been adapted into films starring Richard Burton and Katharine Hepburn.
@WindOfHeavenUK
26 November - 21 December 2019
@finborough
Book tickets now:
Wedi ail-wylio’r gyntaf o
#Bariau
@s4c
ond heb newid fy marn. Mae’r defnydd o Saesneg yn orthrymus a di-angen mewn sawl man. Sigledig iawn iawn ydi’r actio hefyd, er gwaetha ei leoli yn y Gogledd Ddwyrain. Gwahaniaeth ENFAWR rhwng symleiddio iaith a siarad Saesneg pur. Deffrwch!!
#Bariau
@s4c
llawn Saesneg eto; cawl eildwyn eto fyth o gyfresi cynnar Tu Fewn Tu Fas ac A55. Lle ma egwyddorion ieithyddol yr actorion / cynhyrchwyr? Digon cegog dros yr iaith a S4C cyn i £ eu tawelu. Pam bod rhaid i bopeth ‘drama’ yng Nghymru fod yn dywyll efo “drugs” a lladd?
Annwyl
@Golwg360
diolch am rannu’r newyddion am golled
#ArianwenParri
ond plis newch chi gywiro ei chyfenw i Parri nid ‘Parry’. O gof plentyn, byddai’r ‘y’ yn lle ‘i’ yn sarhad mwya iddi. Parri oedd ei gŵr Dafydd. Diolch.
Wedi wir fwynhau
#MasOrCysgodion
@S4C
Teimlo mod i wedi byw yng nghesail Meic am ddiwrnod neu ddau. Bron na allwn i glywed ei oglau yn ogystal â’i hanes a’i boenau meddwl a chorfforol. Y math yma o barch cyhoeddus sy’n gwbl haeddiannol i rebel fel Stevens, cyn iddi fod rhy hwyr.
O go damia, pam bod angan baeddu enw Keith Morris druan, a dim cyhuddiad wedi’i brofi? Dylai’r cwest fod wedi bod yn fwy gofalus efo rhywun mor amlwg yn llygad y cyhoedd. Da ni’n hen bobol creulon ac afiach wir. Gobeithio bod y cradur wedi canfod ei WIR heddwch bellach. 😔😔😔
@malanwilkinson
Paid beio dy hun yn ormodol Malan, adeg yma o’r flwyddyn yn hunllef i lawer ohonom - nosweithiau cynnar, oerni, diwedd y flwyddyn, cwymp y dail. ‘Marw i fyw mae’r haf o hyd’ cofia. Dalia i rannu dy ofnau, ma digon o ddwylo a chlustiau yn barod i wrando a’th gryfhau ❤️🏳️🌈 xx
@twmtrefan
Mae o eisioes ar waith yma’n Llundain a dim anhawster i mi! Arafu petha yn gneud lles i bawb. Gweld mwy a dim brys ar neb. Lot yn ei anwybyddu prun bynnag! Ond yn ca’l eu dal, gan gynnwys Archesgob Caergaint am neud 25mya ar ei ffor adra!
Be ddiawl ydi pwynt cael a cyllido
@BBCRadioCymru
a
@BBCRadioCymru2
os ydi’r ddau ‘wasanaeth’ yn darlledu’r un deunydd sef gêm bel-droed?! Pam nad ydi un ohonynt yn darlledu un o ŵyliau diwyllianol y Cymry yn fyw, sef
@GwylCerddDant
? Ai dyma fydd y dyfodol rwan
@DafDu
? 🤬🤬🤬
@BethanGwanas
O na 🥺 Del druan. Bethan druan. ❤️🩹 Cariad at y ddwy ohonoch. Atgofion. Diolch Del am y sws, ac am edrach ar ôl mam am yr holl flynyddoedd. Cosi mawr iti. Xxx
Falch iawn o lwyddiant y sioe yma
@WindOfHeavenUK
@finborough
- balch hefyd o fod yn ymgynghorydd hanesyddol arni. Dowch i’w gweld! Tocynnau yn prysur werthu. ❤️
Llongyfarchiadau
@s4c
a
@drjdylan
am ddogfen ddirdynol arall
#DynMewnDu
Atmosfferig ac arswydol, ond cyflwyno stori sy’n rhaid ei rannu. Cofio’r cyfnod a’r ofn drwy Ogledd Cymru ar y pryd. Falch bod Dylan wedi dod drwyddi, a diolch am fod mor onest.
#IechydMeddwl
Wedi cael gwledd o gardiau cyfarchion unigryw, wedi’u gneud â llaw (pobol Penmachno!) yn
@siopsioned
heddiw. Rhesymol dros ben hefyd. A
#taffitriog
cartra bendigedig! Werth galw yno. Fydda ni nôl yn sicr, dannedd neu beidio! 🙈❤️
#SiopSioned
#Llanrwst
Penblwydd hapus
@YsgolGlanaethwy
Diolch am eich cyfraniad cadarn a cherddorol dros y tri degawd diwethaf, ac am roi Cymru ar y map
@BGT
a thu hwnt. Gobeithio bydd
@S4C
yn ail-ddarlledu Magdalen. Glanaethwy yn dathlu troi'n 30 oed
Amlwg mai’r
#OakleyArms
ym Maentwrog oedd Y LLE ar gyfer cinio Sul i’r Steddfotwyr mud-a mwd-iedig heddiw! Carafans yn llenwi’r maesydd parcio! Cymraeg cyhyrog llwglyd yn awchu am fwyd a cawod boeth! 😂🏴
Lle ma’r diweddar Glyn ‘Maer’ Roberts o Bwllheli yn y Rhestr? Cyn athro ac awdur y geiria ‘Safwn yn y bwlch’ a llwyth o ganeuon eraill i Hogia’r Wyddfa a John ac Alun? A lle ma Rosalind a Myrddin? Byw ym Mhwllheli ers blynyddoedd.
#eisteddfod2023
@BBCCymruFyw
@crisdafis
Yn bersonol, siomedig iawn iawn oedd yr hyn a gafodd ei arddangos. Wedi dweud hynny, doedd DIM sôn o gwbl am ganlyniadau na chystadleuthau perfformio dramâu chwaith 🤔 Ond dwi di gweld digon o luniau o blant yn chwarae ar y Maes i bara oes!
Pedwar cwmni a chynhyrchiad wedi’i gweld hyd yma, yng nghystadleuaeth actio drama fer
@eisteddfod
#PentreDrama
@sirconwy2019
Safon uchel dros ben; un i fynd bore Iau am 11, ac wedyn y dyfarniad bnawn Gwener am 2yh yn y Theatr
#Eisteddfod2019
#Bariau
@s4c
llawn Saesneg eto; cawl eildwyn eto fyth o gyfresi cynnar Tu Fewn Tu Fas ac A55. Lle ma egwyddorion ieithyddol yr actorion / cynhyrchwyr? Digon cegog dros yr iaith a S4C cyn i £ eu tawelu. Pam bod rhaid i bopeth ‘drama’ yng Nghymru fod yn dywyll efo “drugs” a lladd?
Yda chi’n aelod o gwmni drama? Beth am fynd ati i greu cwmni a chystadlu yn
@eisteddfod
#SirConwy2019
Dyddiad cau i gystadlu Mawrth 1af. Gwobr £500. Cyfle i berfformio yn Theatr y Maes yn ystod yr ŵyl!
Balch iawn ar ôl gweld cynhyrchiad terfynol
@WindOfHeavenUK
@finborough
Cwbl haeddianol o’r nenlen o sêr disglair. Parch eto at y Gymraeg, yn llafar ac ar gân; cynhyrchiad llyfn, slic, llawn emosiwn a thyndra. Tocynnau’n gwerthu’n sydyn. O! Deuwch Ffyddloniaid!
#TheWindOfHeaven
#nosonGomedi
#Dathlu40
#s4c40
siomedig iawn oedd 2.5 awr o’r 3 awr o ‘ddathlu’. Amaturaidd mewn mannau. Y sianel yn mynd am yn ôl, lle ymlaen. Boddi mewn Saesneg di-angen (eto). Ai hyn ydi’r gora i ddathlu’r deugain
@s4c
?! 🤷🏼♂️🥴 Does ryfedd mod i’n gwylio llai a llai 😕🤔
Heb wylio fawr
@s4c
dros y flwyddyn diwethaf, ond difyr sylwi (o bell) ar ymateb 2 gomedi : teimlad S4Caerdydd amlwg i
#CymryFeiral
nid yn unig ar y sgrin, ond hefyd yn ei gefnogwyr!
#Rybish
wedyn yn amlwg ogleddol ei naws, hiwmor fwy cynnil, fewnblyg bron. Anodd plesio pawb🤷🏻♂️
@signor_piccolo
Never heard of that. My new car 2023 no longer has a spare tyre, only a foam-fix-it kit, which fills the puncture to allow extra 30 miles. Neighbour’s 2020 new car still has smaller spare tyre to allow same extra miles to fix.
Un o’r adegau prin ro’n i’n gwrando
@BBCRadioCymru
oedd i glywed darllediad byw
@gcdllanelli2019
neu eisteddfod
@CFfICymru
Rwan, mae’r ddau wedi’i ddileu, a ffigyre gwrando ar eu hisaf ers 2016. Gwasanaeth ‘Cenedlaethol’ o fiwsig plastig a malu awyr di-ddiwedd. Dechre’r diwedd.
Sioc a cholled enfawr arall i ddiwylliant Cymru. Monwysun talentog arall oedd yn MEDRU gneud, a DWEUD. Braint oedd cael cydweithio a’n nghyfweld ganddo ar Croma, a chynhyrchu fy nrama
@S4C
efo Ffilmiau’r Bont. Bydd na rialtwch heno wrth iddo ail-danio’r gyfeillgarwch efo Eirug!
Fel teulu, mae’n calonnau wedi eu torri o golli Dad a Taid.
I nifer o bobl ledled Cymru, roedd o’n wyneb a llais cyfarwydd am ddegawdau, ac rydym yn eithriadol o falch o’r cyfraniad pwysig wnaeth o gydol ei oes. 1/2
@bethdimoyn
Lol botes maip. Profiad ac urddas gwybodus sy angen, ddim rhyw geiliogod ifanc swnllyd yn newid popeth! Rhaid ni gychwyn deiseb
@TRYCS
! Aberthwn y ‘gwaed ifanc’ am Beti, unrhyw ddydd! Does ryfedd bod
@BBCRadioCymru
yn colli gwrandawyr! 😱😤
Nos da ‘rhen Robat Henri. Atgofion braf am ddyddiau coleg a dy gyfraniad i
@Y_Cymro
heb sôn am dy alluoedd cerddorol. Ni allodd y tatŵs na’r lledar guddio dy annwyldeb na’th hiwmor tawel. Cwsg mewn hedd a diolch am yr atgofion. RIP Rob.
wedi gwir fwynhau rhaglen Ken Hughes
@S4C
Yn gwbl gynnes, Gymreig a gonest. Un o’r petha gora imi weld dolig yma. Mae o’n gymeriad gwbl unigryw, ac yn braf ei wylio. Da iawn
@DarlunTv
#MiGawnNiDdawnsio
Ai dim ond fi sy’n meddwl bod
@TheatrGenCymru
a
@NTWtweets
yn troi’n theatrau Cenedlaethol ieuenctid Cymru? Ma 75% o’u harlwy ar gyfer plant neu bobol ifanc! Be am y rhai hŷn sy’n prysur gefnu ar y Theatr oherwydd y ddarpariaeth gwael a diffyg safon? Onid anelu atyn nhw sy raid?
Blâs da ail ddarllen nofelau Daniel Owen. Dreflan, Rhys Lewis di gwblhau, ar ganol Enoc Huws, efo Marged ac Enoc a cherydd y plismon! Gwen Tomos a Straeon y Pentan i ddod. Ydi’r Siswrn werth o?! Sa ffit i Emyr Llew ddarllen Rhys Lewis fyd! Susnag Wil Bryan! Eironi
@meinirpjones
!