Ar ei ddiwrnod olaf yn ei swydd Cymdeithas yr Iaith diolch o waelod calon i Colin Nosworthy am ei gyfraniad i'r Gymraeg hyd yn hyn a'i waith caled ar ymgyrchoedd dros iaith, pobl, a'i chymunedau. Pob nerth a bendith i ti ar gyfer y dyfodol.
#RwynHoffiColin
Oedd Jamie Bevan yn y llys heddiw am rwystro cerbydau rhag cyrraedd rali adain dde eithafol ym Merthyr. Dyma ddyfyniad. 👏👏👏
Quote from Jamie Bevan who was in court today for obstructing traffic from reaching an extreme right rally in Merthyr.
👏👏👏
Mae llwyddiant ymgyrch Yma o Hyd yn awgrymu bod potensial mawr i gydlynu gweithredoedd eraill fel pobl Cymru: pethau diwylliannol, pethau gweledol, pethau doniol, pethau ysbrydoledig, pethau Cymraeg, pethau gwleidyddol, pethau profoclyd.
Mae Covid yn rhemp eto, yn ôl data swyddogol. Hefyd tybed faint o bobl sy'n cael canlyniad positif ar brawf llif unffordd sydd ddim yn cael eu cyfrif? Anecdata ond mae'n teimlo fel llawer - nabod mwy o ffrindiau ayyb gyda fe nawr nag unrhyw bryd arall yn ystod y pandemig
Does dim angen gwylio'r cyfweliad er mwyn gwybod bod y sylwebydd arfaethedig yn hollol hollol anwybodus o'r pynciau dan sylw. Mae angen gwahodd arbenigwraig sydd yn brofiadol (ac sydd yn PARCHU safonau cwrteisrwydd/cydraddoldeb). Mae hygrededd eich rhaglen yn y fantol.
Nid “rhoi llwyfan” mae’r
@bydyneile
ond holi a herio ffigurau dylanwadol (hoff neu atgas). Trueni bod rhai gwleidyddion yng Nghymru yn gwrthod bod yn atebol, ac eraill heno yn cwyno am gyfweliad dy’ nhw ddim wedi ei weld yn lle gwylio
@S4C
a meddwl sut allen ni wneud yn well
Os ydych chi'n pryderu fel fi am y diffyg offer gwarchodol, neu PPE, o safon yn ysbytai Cymru byddaf i'n lansio menter bwysig yfory. Mae grŵp bach ohonom ni wedi bod yn siarad â gweithwyr iechyd am yr angen, ac wedi ystyried gwahanol ffyrdd ymarferol o geisio gwella'r sefyllfa.
Hmm. Does bron dim gwybodaeth wrth arbenigwyr Covid yn yr erthygl yma, dim ond rhyw ensyniadau rwtsh gan berson sydd wedi gwrthod y brechiad a masgiau. Ni fydd hi'n arwain at ddealltwriaeth o'r materion dan sylw. Felly pam gyhoeddi?
Any users of minoritised or lesser-resourced languages out there who know how to categorise this worldview? I don't think 'racism' fits (Welsh users span multiple ethnic groups). How about 'Anglo-chauvinism' or 'Anglo-supremacism'?
I still think learning a not-very-widely-spoken language is a lot of effort for low reward. It does not follow that I hate Wales, the Welsh, the Welsh language or its speakers. I do not hate performative offence-takers, though I’ve muted a few. I do not even hate cottage cheese
Yn ôl cyn-brif weithredwr S4C roedd "mynd â'r iaith Gymraeg i'r byd" ym mandad ei phenodiad (para 4) - ond dydy hynny erioed wedi bod yn prif amcan neu bwrpas y Sianel Gymraeg.
Y gwir yw, mae rhai heddweision yn mwynhau gwrthdaro corfforol. Mae hynny yn amlwg i unrhyw un sydd wedi nabod pobl yn yr heddlu ac wedi cynnal sgwrs gyda nhw. Mae'n gyffrous iddynt, maent yn mwynhau adrodd straeon amdano, ac mae rhai ohonynt yn chwilio amdano.
31ain Gorffennaf o fy mhen-blwydd!
Byddaf i'n hapus os ydych chi'n gallu rhoi cwpl o bunnoedd i apêl
@TarianCymru
Ni Yw Y Byd plîs, i helpu pobl Rohingya:
Dw i'n ystyried creu bar chwilio syml ar y we Is This Devolved? ar gyfer newyddiadurwyr Llundain, e.e. os maen nhw yn teipio 'health' mae'r wefan yn ymateb 'Health is devolved!'. Syniad addawol neu na?
NEW // The Israeli Drone Tested Over Cardigan Airspace – Before Killing Palestinians In Gaza
@genericredfern
has been looking into the role of the military in Wales in Israel’s recent aggression towards Palestinians in the Gaza Strip.
Full story:
Ar y ffordd i Kemper, Llydaw am Y Gyngres Geltaidd. Neu fel arall:
Ar C'hendalc'h Keltiek
An Guntelles Keltek
Yn Cohaglym Celtiagh
A' Chòmhdhail Cheilteach
An Chomhdháil Cheilteach
#YGyngresGeltaidd
#CelticCongress
Rydym angen benthyg £13,900 am fis - i archebu cyflenwad o 10,000 mwgwd FFP2/KN95 i weithwyr gofal ac iechyd ar draws Cymru. Llif arian yw'r her achos mae lot fawr o weithgaredd codi arian
@TarianCymru
. Pobl hael yn rhoi tua £1,000 bob dydd i'r fenter. Pwy all helpu plîs? x
Diolch
@Cymod
am drefnu ymgyrch angenrheidiol. Nodwch fod 30 o filwyr Saudi Arabia wedi cael hyfforddiant yn Ynys Môn (102 ar draws wledydd Prydain) - ac mae'r canlyniad i blant Yemen yn dorcalonnus. Stopiwch fasnachu arfau a hyfforddi Saudi Arabia nawr
Ydy unrhyw un arall yn teimlo ein bod wedi cyrraedd y terfyn o ran y llu o negeseuon sy'n cyrraedd bob awr bob dydd? WhatsApp, Messenger, negeseuon preifat Twitter, Signal, Slack, SMS... heb sôn am e-byst.
Dyma god ymarfer ar osod 'cordon sanitaire' yn erbyn plaid hiliol a rhagfarnllyd ein Cynulliad.
Gofynnwch i'ch aelodau Cynulliad o bleidiau eraill os maen nhw am ddilyn y cod.
#yagym
ti'n cofio'r boi yna alex barros-curtis. rhan o'r criw yna oedd yn hongian ar y dell a insole court, wneud spliffs a neidio mewn i'r ganolfan sgio. sgipio gwersi a mynd mas i pysgota yn yr elai. ta waeth, synnu bod e'n wneud unrhyw beth gyda'i fywyd a bod yn onest
Pwynt diddorol yma gan brosiect cymunedol yng Nghaerdydd: "Capitalism prefers a building to be dead and empty for years instead of being used by locals to create a vibrant community space."
Dyma restr o'r caethweision a'r anifeiliaid ar ystadau Penrhyn yn Jamaica, 31 Rhagfyr 1812. Bu cysylltiad rhwng teulu'r Pennant, a hanai o Sir y Fflint yn wreiddiol, a'r diwydiant cynhyrchu siwgr a'r fasnach gaethwasiaeth broffidiol yn India'r Gorllewin:
Mae'r stori am ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan luoedd arfog gwladwriaeth Israel yn arwyddocaol iawn.
Efallai nid y technoleg ei hun sy'n bwysig iawn ond yr hyn mae'i ddefnydd yn datgelu am y defnyddwyr, y rhai sy'n ei reoli at bwrpas.
Annwyl Wleidyddion. Does dim rhaid gwenu mewn lluniau. Does dim rhaid ymddangos mewn lluniau. Jyst dweud na. Gwrandewch ar eich cydwybod (os ydych chi digon ffodus i gael un).
RIP Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd...? Pa fath o adran Gymraeg sydd ar ôl os fydd y Brifysgol yn "Creu ysgol ieithyddol, lenyddol ac arferion creadigol newydd gan uno'r ysgolion Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Ieithoedd Modern a Chymraeg"? 🤔
@RealBoydClack
Why allow a Brexiteers reference to tarnish an otherwise fine tweet? Wales' independence movement could and should outdo them in every aspect: anti-racist, internationalist, social justice, green economy, and so on. And belief for an overall plan based on evidence!
Dychmygwch holl drigolion Caerdydd yn casglu arian tuag at brynu tir ac adnoddau ar y cyd. Wedyn gallen nhw benodi grŵp o bobl atebol i stiwardio'r tir ac adnoddau, i wneud penderfyniadau call ar ran yr holl gymunedau, i lunio cynlluniau ysbrydoledig
📺 Helo bobl! Cyn hir fe fydd bot newydd sy'n trydar y sioeau S4C sydd ar fin diflannu oddi ar Clic. Os dych chi'n hoffi noson gynnes o deledu ond ddim yn hoff o fethu rhaglen Gymraeg dilynwch.
Ei enw yw Clic Off
@OffClic