Os 'y chi erioed wedi meddwl beth yw diffiniad y gair 'Strab'...!🙈😂🏉
Neith y sgwrs yma gaeth Ifan Evans gyda Tomos Bwlch, 11 oed o Aberaeron, gadw chi i fynd os ydych chi'n gweld eisiau'r rygbi penwythnos hyn!😂🏴
Diolch i chi wrandawyr ffyddlon Radio Cymru am eich cefnogaeth drwy'r flwyddyn.
⭐️ 🎄 🎶 Dyma staff a chyflwynwyr Radio Cymru gyda'u dehongliad nhw o'r garol fytholwyrdd "O! Deuwch Ffydloniaid" 🎶 🎄 ⭐️
🇦🇫Yr ymdrechion i gynnig lloches i ffoaduriaid o Afghanistan yn parhau
Mae
@owen_garry
wedi bod yn holi teulu o Syria sydd wedi cael lloches yng Ngheredigion
🎙Dyma brofiad Shadi
Rhagor ar y stori yma ar
#DrosFrecwast
👉
Mae e nôl...!🙈😅 Tomos Bwlch ac
@ifanevans
yn rhoi'r byd yn ei le unwaith 'to!😄
Ac wythnos yma ar y fferm...ma' nhw 'di bod yn sbaddu!!😳😂
Byddwch chi moyn gwrando tan y diwedd...credwch ni!
Penwythnos hapus bawb!🤣💙
Mae'r wyneb cyfarwydd ar S4C, Mari Grug yn wynebu un o heriau mwyaf ei bywyd
Ddoe ar y cyfryngau cymdeithasol fe ddatgelodd Mari ei bod hi yn cael triniaeth cemotherapi, a hynny ar ôl cael diagnosis am ganser y fron ym mis Mai
Mwy ar Cymru Fyw 👇
Dyma ein peirianwyr sain gwych, Gwynfor ac Aled. Hon yw Eisteddfod ola'r ddau gyda Radio Cymru cyn ymddeol yn 2023. 😭 Mae Gwynfor wedi gweithio yn yr Eisteddfod ers 1980! Heb eu gwaith caled ni fyddai ein rhaglenni yn cyrraedd y tonfeddi. Diolch o galon i'r ddau! 💙
“Os oes rhai yn meddwl fod y Gymraeg yn niwsans, yn ddiangen, yn creu anhawster neu yn wastraff arian… rhaid i Gaerdydd fod ar flaen y gad i’w profi yn anghywir.”
Dyma araith angerddol
@HuwStephens
, Llywydd yr Ŵyl yn ei chyfanrwydd. 👏
Llongyfarchiadau mawr i
@IfanSion
, llais cyfarwydd a chynhyrchydd medrus yma'n Radio Cymru, fydd yn cyflwyno tair rhaglen ar
@BBCR1
dros gyfnod y Nadolig fel rhan o Radio 1's Christmas Takeover. Gwych! 🎉 🤩
Diolch
@Dewi_Llwyd
👏
Ym mis Rhagfyr fe fydd yn rhoi’r gorau i gyflwyno ar fore Sul.
Mae’r rhaglen wedi bod yn rhan bwysig o’n penwythnos ers 14 mlynedd, ond tro Dewi yw hi nawr i ymlacio ar fore Sul!
Bydd yn parhau'n llais cyfarwydd ar yr orsaf tra’n cyflwyno rhaglenni eraill.
"Wel, galla'i ddim credu'r peth a gweud y gwir... Mae'n dipyn o sioc... ac yn dipyn o anrhydedd!"
Llongyfarchiadau enfawr i Tecwyn Ifan, sy'n derbyn gwobr 'Cyfraniad Oes'
@Y_Selar
eleni!🎉🎵
Aled Hughes gafod y pleser o rannu'r newyddion arbennig gyda Tecwyn.💙📻
Llongyfarchiadau mawr i
@CarylBryn
👏
📚 Enillydd gwobr Barddoniaeth, Llyfr y Flwyddyn 2020 gyda'i chyfrol gyntaf, Hwn ydy’r llais, tybad? 📚
#llyf20
#G
ŵylAmGen
"Mae hiliaeth yn bodoli ac mae'n effeithio ar bobl ddu ar draws Cymru."
Anerchiad Toda Ogunbanwo o Benygroes, Gwynedd, sef Llywydd Dydd Gwener yr Ŵyl AmGen.
Hwyl fawr
#TarorPost
a diolch i bawb fu’n rhan o’r trafod dros y blynyddoedd.
Pob hwyl i
@owen_garry
fydd yn ohebydd arbennig i Radio Cymru, ac yn ein tywys drwy'r etholiad.
Fe fydd ei daith yn dechrau yn Yr Alban ar y
#PostCyntaf
fore Llun.
Ein tir ni, ein hiaith ni, ein diwylliant ni.
Y straeon a'n profiadau, y chwerthin a'r dagrau.
🏴 Cymru. Mae'n anhygoel.
Aled Hughes
Llun-Gwener am 8.30am ar BBC Radio Cymru a
@BBCSounds
Gyda thristwch estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Leah Owen, a fu farw'n 70 mlwydd oed. Bu Leah yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru dros y degawdau a'i chyfraniad at ddiwylliant Cymru'n anfesuradwy. Bydd colled mawr ar ei hôl.
"Dim lot o bobl sy'n gwybod fy mod wedi astudio dawns . . . fydd o'n gampwaith, do'n i'm yn gwybod fy mod i mor dda! " 👀🕺
Cip olwg tu ôl y llen o
@Tudur
yn ffilmio hysbyseb ar gyfer ei raglen ar bier Bangor!
'I ddweud y gwir gen i bach o ofn mynd nôl i Syria'
@owen_garry
wedi bod yn holi teulu o Syria sydd wedi cael lloches yng Ngheredigion
🎙 Dyma brofiad Sara
Gwrandewch ar y cyfweliad yn llawn yma 👉
"Mae'n flêr a does 'na'm seren heno i mi uch fy mhen;
dw i'n geiban ond dw i'n gwybod mai yma wif innau i fod."
Recordiad arbennig o 'Yma Wyf Innau I Fod' gan Elidyr Glyn o
@bwncathband
💖
Fideo cyfan:
"Ydych chi wedi clywed ei llais hi ers...?"
"Dim ers ei cholli hi, naddo."
Mewn rhaglen arbennig yn nodi 75 mlynedd
@StFagans_Museum
, mae
@DeiTomos
yn cael ei daro'n emosiynol wrth ddarganfod hen recordiad o lais ei Nain yn archif sain yr amgueddfa.💙
"Nid ar chwarae bach y gwnaethon ni gael y buddugoliaethau yna neithiwr"
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar Dros Frecwast yn sôn am yr ymdrech tu ôl i lwyddiant y blaid yn yr Etholiad.
Mwy ar Dros Frecwast 👉
🏴 Dydd Gwyl Dewi Hapus! 🏴
Dyma
@CatrinFinch
gyda fersiwn hudolus o 'Dafydd y Garreg Wen'. 😍
📻 Bydd Catrin yn perfformio mewn cyngerdd arbennig heno gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
@BBCNOW
@BBCNOWCymraeg
Roedd Tommo yn gyfaill i
@BBCRadioCymru
ac yn lais pwysig yng nghymunedau’r Gorllewin. Rydym yn estyn cydymdeimlad i’w deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr ar hyd y blynyddoedd
Y cyflwynydd Andrew 'Tommo' Thomas wedi marw
"Os fyswn i ddim wedi siarad â rhywun, dwi ddim yn gwybod os fyswn i dal 'ma"
Mae'r actor
@RhysapWilliam
wedi bod yn trafod ei brofiadau personol o fyw gydag iselder
Yn ôl Rhys, mae'n bwysig bod pobol yn siarad yn agored am iechyd meddwl 👇
#DrosFrecwast
|
#GolygyddGwadd
Dylan Ebenezer yn ymuno â rhaglen newyddion foreol newydd BBC Radio Cymru - Dros Frecwast - o 25 Ionawr 2021.
Bydd
@DylanEbz
yn ymuno â
@KateCrockett
bob bore Llun i fore Iau rhwng 7am a 9am.
Croeso i'r tîm Dylan!
🎉Mae Tedy Lewis o Drelew, Patagonia yn 18 heddiw, ond mae'n dathlu yng Nghymru gan na all o deithio adra i'r Wladfa 🎉
"Dwi'n cael mwy o amser yng Nghymru, a manteisio ar ddiwrnodau braf y gwanwyn".
@urdd
👏🎉Llongyfarchiadau
@AledH_
ar rwyfo dy lyn ola un sef Llyn Aled ar Fynydd Hiraethog! Mae 41 milltir o lynnoedd Cymru wedi eu rhwyfo! Diolch i bob un ohonoch am gefnogi Aled, am gyfrannu ac am gymryd rhan yn her
#ActiaDyOed
i
@BBCCiN
2020.👏🎉
Fe wnaeth Aled gyfraniad enfawr i Radio Cymru. Bu'n olygydd ar yr orsaf rhwng 1995 a 2006, a'n gynhyrchydd ar nifer o raglenni poblogaidd. Roedd ganddo angerdd at bobl a'u straeon, a natur annwyl a charedig pob tro. Bydd pawb yma'n ei golli'n arw.
Nos Wener 31 Gorffennaf 🗓
🎤 Fe fydd
@BrynfonFn
yn perfformio mewn cyngerdd arbennig ar
@BBCRadioCymru
, gyda'i fand Bryn Bach 🎤
😍 Dyma ragflas o'r cyngerdd wrth i'r band berfformio Strydoedd Aberstalwm fel rhan o
#G
ŵylAmGen 😍
Erioed wedi meddwl dysgu Galiseg o’r blaen?!😮
Helena Miguélez Carballeira sy’n rhoi gwers gwib i
@boimoel
ar iaith yr ardal arbennig hon o Sbaen…👇
Gwrandewch ar y sgwrs llawn ar
@BBCSounds
:
"Messi yw, arian byw, a phêl-droediwr gorau’n fyw..." 🇦🇷 ⚽️ 🐐
Ar ôl i'r Ariannin sicrhau eu lle yn ffeinal Cwpan y Byd oeddan ni'n meddwl y bysan ni'n rhannu parodi arbennig yma gan Tudur Dylan Jones. 😄
Hyn a mwy yn Talwrn Nadolig cyn bo hir ar Radio Cymru! 🎄
Penblwydd hapus iawn heddiw i
@LSRPlaid
Aelod Seneddol
@Plaid_Cymru
Dwyfor Meirionnydd - gwestai rhaglen
@Dewi_Llwyd
bore fory. Y llun yn cynnwys yr anrheg penblwydd a newidiodd ei bywyd.
‘Da ni nodi pen-blwydd
@DafyddIwan
yn 80 oed gyda diwrnod llawn rhaglenni arbennig heddiw!🥳🎶
Dyma
@GwilymBowenRhys
yn perfformio fersiwn o’r clasur ‘Hawl i Fyw’ ar raglen Richard Rees y bore ma!
Gwrandewch nôl ar y sesiwn byw cyfan fan hyn👇